Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mehefin 2018
Amser:
08.30 -
08.50
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 20 Mehefin 2018 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant ym Mhenderfyniad y Bwrdd Taliadau (30 munud)
Dydd Mercher 27 Mehefin 2018 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd mewn egwyddor mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddylai fod yn bwyllgor sifftio. Fodd bynnag, dywedodd Arweinydd y Tŷ yn glir bod ei chytundeb yn ddarostyngedig i ddatrys maint y pwyllgor a chydbwysedd gwleidyddol mewn ffordd sy'n bodloni.
Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno papur i gyfarfod yn y dyfodol ar yr opsiynau ar gyfer nodi'r materion o ran maint a chydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth hefyd i barhau i weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i edrych ar y cylch gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth yng ngoleuni Bil yr UE (Ymadael) a datblygiadau eraill.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hysbysu gan y Llywydd fod Caroline Jones wedi ymddiswyddo fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Gofynnodd y Llywydd i UKIP hysbysu'r Pwyllgor Busnes o'i enwebiad ar gyfer Comisiynydd newydd.